Cân Y Tri Llanc 1:28-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Yna, ag un llais, dechreuodd y tri yn y ffwrnais ganu mawl, a gogoneddu a bendithio Duw fel hyn:

29. “Bendigedig wyt ti, O Arglwydd, Duw ein hynafiaid;moliannus a thra dyrchafedig wyt dros byth.

30. Bendigedig yw dy enw gogoneddus a sanctaidd;tra moliannus a thra dyrchafedig yw dros byth.

31. Bendigedig wyt ti yn dy deml sanctaidd a gogoneddus;tra theilwng wyt i'th foliannu a'th glodfori dros byth.

32. Bendigedig wyt ti, sy'n gwylio'r dyfnderoedd o'th eisteddle uwchben y cerwbiaid;moliannus a thra dyrchafedig wyt dros byth.

Cân Y Tri Llanc 1