Cân Y Tri Llanc 1:18-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Bellach yr ydym yn dy ganlyn â'n holl galon, ac yn dy ofni,

19. ac yn ceisio dy ffafr. Paid â'n gwaradwyddo;ond ymwna â ni yn ôl dy addfwynder,ac yn ôl amlder dy drugaredd.

20. Gwared ni yn ôl dy ryfeddodau,a dyro ogoniant i'th enw, O Arglwydd.

21. Cywilyddier pawb sy'n peri niwed i'th weision;gwaradwydder hwy nes iddynt golli pob gallu ac arglwyddiaeth,a dryllier eu nerth hwy.

22. Gad iddynt wybod mai tydi yw'r Arglwydd, yr unig Dduw,a'th ogoniant yn ymledu dros yr holl fyd.”

23. Yr oedd gweision y brenin, y rheini a'u taflodd i mewn, yn dal i boethi'r ffwrnais â nafftha a phyg ac â ffaglau a choed tân,

24. nes i'r fflam neidio naw cufydd a deugain uwchlaw'r ffwrnais.

Cân Y Tri Llanc 1