Bel A'r Ddraig 1:25-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Atebodd Daniel, “I'r Arglwydd fy Nuw yr ymgrymaf. Duw byw yw ef.

26. Ond dyro i mi awdurdod, frenin, ac mi laddaf y ddraig heb na chleddyf na ffon.” Dywedodd y brenin, “Yr wyf yn ei roi iti.”

27. Cymerodd Daniel byg a saim a blew, a'u berwi gyda'i gilydd a gwneud teisennau ohonynt; ac fe'u gosododd yng ngheg y ddraig. Bwytaodd hithau hwy, ac fe ffrwydrodd.

28. Dywedodd Daniel, “Edrychwch ar y pethau yr ydych yn eu haddoli.” Pan glywodd y Babiloniaid hyn, aethant yn ddig, a throi yn erbyn y brenin a dweud, “Y mae'r brenin wedi troi'n Iddew. Y mae wedi distrywio Bel, a lladd y ddraig, a rhoi'r offeiriaid i farwolaeth.”

Bel A'r Ddraig 1