Baruch 4:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Fe'ch gwaredir o ddwylo eich gelynion gan yr Un a ddug y drygau hyn arnoch.

19. Ewch ymaith, fy mhlant, ewch ymaith, oherwydd gadawyd fi'n amddifad.

20. Diosgais wisg tangnefedd, a rhoi amdanaf sachliain ymbiliwr. Galwaf ar yr Arglwydd tragwyddol tra byddaf byw.

21. Codwch eich calon, fy mhlant. Llefwch ar Dduw, ac fe'ch gwared o ormes ac o ddwylo'ch gelynion.

22. Oherwydd ar y Duw tragwyddol y seiliais fy ngobaith am eich gwaredigaeth, a daeth i mi lawenydd oddi wrth yr Un Sanctaidd ar gyfrif y drugaredd a ddaw yn fuan atoch oddi wrth eich gwaredwr tragwyddol.

Baruch 4