5. Paid â chofio troseddau ein hynafiaid, ond cofia yr awr hon dy allu a'th enw dy hun;
6. oherwydd ti yw'r Arglwydd ein Duw ni, a thydi, Arglwydd, a foliannwn.
7. Er mwyn hyn y gosodaist dy ofn yn ein calon, i beri inni alw ar dy enw. Moliannwn di yn ein halltudiaeth, am inni droi oddi wrthym holl droseddau ein hynafiaid, a bechodd yn dy erbyn.
8. Dyma ni heddiw yn ein halltudiaeth, lle y gwasgeraist ni, i fod yn gyff gwawd a melltith, ac i dderbyn y gosb am holl bechodau ein hynafiaid, a gefnodd ar yr Arglwydd ein Duw.’ ”
9. Gwrando, Israel, ar orchmynion y bywyd. Clyw, a dysg ddeall.
10. Pam, Israel, pam yr wyt ti yng ngwlad dy elynion, yn heneiddio mewn gwlad estron, wedi dy halogi gan y meirw,
11. a'th gyfrif gyda'r rhai sydd yn Nhrigfan y Meirw?
12. Am i ti gefnu ar ffynnon doethineb.
13. Pe bait wedi rhodio yn ffordd Duw, byddit yn byw mewn heddwch am byth.
14. Dysg pa le y mae deall, pa le y mae nerth, pa le y mae amgyffred, er mwyn dysgu hefyd pa le y mae hir oes a bywyd, pa le y mae goleuni i'r llygaid, a thangnefedd.
15. Pwy sydd wedi cael hyd i drigle doethineb? Pwy sydd wedi mynd i mewn i'w thrysorfa hi?
16. Pa le y mae llywodraethwyr y cenhedloedd, a'r rhai sy'n dofi anifeiliaid gwyllt y ddaear, a'r rhai sy'n hudo adar yr awyr?
17. Pa le y mae'r rhai sy'n pentyrru'r arian a'r aur y mae pobl yn ymddiried ynddynt, ac yn ymgiprys amdanynt yn ddiddiwedd?
18. Pa le y mae'r gofaint arian, a'u gofal mawr a chyfrinion eu crefft?
19. Y maent wedi diflannu a disgyn i Drigfan y Meirw, ac eraill wedi codi i gymryd eu lle.
20. Daeth cenhedlaeth newydd i weld golau dydd ac i breswylio ar y ddaear, ond heb ddysgu ffordd gwybodaeth,
21. na darganfod ei llwybrau na chael gafael arni; ac y mae eu plant hwythau wedi crwydro ymhell oddi ar eu ffordd.
22. Ni chlywyd sôn amdani yng Nghanaan, ac ni welwyd mohoni yn Teman.
23. Nid yw plant Hagar chwaith, sy'n chwilio am ddeall ar y ddaear, na masnachwyr Merran a Teman, na dyfeiswyr chwedlau na chwilotwyr am ddeall, wedi dysgu ffordd doethineb na chofio'i llwybrau hi.