Baruch 3:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Pe bait wedi rhodio yn ffordd Duw, byddit yn byw mewn heddwch am byth.

14. Dysg pa le y mae deall, pa le y mae nerth, pa le y mae amgyffred, er mwyn dysgu hefyd pa le y mae hir oes a bywyd, pa le y mae goleuni i'r llygaid, a thangnefedd.

15. Pwy sydd wedi cael hyd i drigle doethineb? Pwy sydd wedi mynd i mewn i'w thrysorfa hi?

16. Pa le y mae llywodraethwyr y cenhedloedd, a'r rhai sy'n dofi anifeiliaid gwyllt y ddaear, a'r rhai sy'n hudo adar yr awyr?

17. Pa le y mae'r rhai sy'n pentyrru'r arian a'r aur y mae pobl yn ymddiried ynddynt, ac yn ymgiprys amdanynt yn ddiddiwedd?

Baruch 3