Baruch 1:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. casglasant arian hefyd, pob un yn ôl ei allu,

7. a'i anfon i Jerwsalem at yr offeiriad Joachim fab Chelcias, fab Salum, ac at yr offeiriaid eraill, ac at yr holl bobl a gafwyd gydag ef yn Jerwsalem.

8. Dyma'r pryd y cymerodd Baruch lestri tŷ'r Arglwydd, a oedd wedi eu dwyn o'r deml, i'w dychwelyd i wlad Jwda, ar y degfed dydd o fis Sifan.

9. Y rhain oedd y llestri arian yr oedd Sedeceia fab Joseia brenin Jwda wedi eu gwneud ar ôl i Nebuchadnesar brenin Babilon gaethgludo Jechoneia, a'r tywysogion a'r carcharorion a'r mawrion a phobl y wlad, o Jerwsalem, a'u dwyn i Fabilon.

Baruch 1