Baruch 1:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. a dweud: ‘I'r Arglwydd ein Duw y perthyn cyfiawnder, ond i ni gywilydd wyneb hyd y dydd hwn, i bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem,

16. i'n brenhinoedd a'n llywodraethwyr a'n hoffeiriaid a'n proffwydi, ac i'n hynafiaid.

17. Oherwydd pechasom yn erbyn yr Arglwydd,

18. a buom yn anufudd iddo; ni wrandawsom ar lais yr Arglwydd ein Duw, i rodio yn ôl y gorchmynion a osododd yr Arglwydd ger ein bron.

Baruch 1