Baruch 1:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma eiriau'r llyfr a ysgrifennodd Baruch fab Nereia, fab Maaseia, fab Sedeceia, fab Asadeia, fab Chelcias, ym Mabilon

2. yn y bumed flwyddyn, a'r seithfed dydd o'r mis, yr adeg y goresgynnodd y Caldeaid Jerwsalem a'i llosgi.

3. Darllenodd Baruch eiriau'r llyfr hwn yng nghlyw Jechoneia, mab Joachim brenin Jwda, ac yng nghlyw pawb o'r bobl a ddaeth i'w glywed:

4. y rhai mawr, y rhai o linach frenhinol, yr henuriaid, a phawb o'r bobl, o'r lleiaf hyd y mwyaf—pawb yn wir oedd yn byw ar lan Afon Swd ym Mabilon.

5. Mewn galar ac ympryd, ymroesant i weddïo gerbron yr Arglwydd;

Baruch 1