Barnwyr 9:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Pan ddywedwyd hyn wrth Jotham, fe aeth ef a sefyll ar gopa Mynydd Garisim a gweiddi'n uchel. Meddai wrthynt, “Gwrandewch arnaf fi, chwi benaethiaid Sichem, er mwyn i Dduw wrando arnoch chwithau.

8. Daeth y coed at ei gilydd i eneinio un o'u plith yn frenin.

9. Dywedasant wrth yr olewydden, ‘Bydd di yn frenin arnom.’ Ond atebodd yr olewydden, ‘A adawaf fi fy mraster, yr anrhydeddir Duw a dynion trwyddo, a mynd i lywodraethu ar y coed?’

10. Yna dywedodd y coed wrth y ffigysbren, ‘Tyrd di; bydd yn frenin arnom.’

11. Atebodd y ffigysbren, ‘A adawaf fi fy melystra a'm ffrwyth hyfryd, a mynd i lywodraethu ar y coed?’

12. Dywedodd y coed wrth y winwydden, ‘Tyrd di; bydd yn frenin arnom.’

Barnwyr 9