Barnwyr 8:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd gwŷr Effraim wrtho, “Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud i ni, drwy beidio â'n galw pan aethost i ymladd yn erbyn Midian?” A buont yn dadlau'n chwyrn ag ef.

2. Ond dywedodd ef wrthynt, “Yn awr, beth a wneuthum i o'i gymharu â'r hyn a wnaethoch chwi? Onid yw lloffion Effraim yn well na chynhaeaf Abieser?

3. Yn eich dwylo chwi y rhoddodd Duw Oreb a Seeb, arweinwyr Midian. Beth a fedrais i ei wneud o'i gymharu â'r hyn a wnaethoch chwi?” Wedi iddo ddweud hyn, fe dawelodd eu dig tuag ato.

Barnwyr 8