Barnwyr 21:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Gofidiodd yr Israeliaid am eu perthynas Benjamin, a dweud, “Y mae un llwyth wedi ei dorri allan o Israel heddiw.

7. Beth a wnawn ni dros y dynion sydd ar ôl, a ninnau wedi tyngu i'r ARGLWYDD na roddem iddynt yr un o'n merched yn wraig?”

8. Ac meddent, “Prun o lwythau Israel sydd heb ddod i fyny at yr ARGLWYDD i Mispa?” Nid oedd neb o Jabes-gilead wedi dod i'r gwersyll i'r cynulliad.

9. Pan gyfrifwyd y bobl, nid oedd yno neb o drigolion Jabes-gilead.

Barnwyr 21