Barnwyr 20:28-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. a Phinees fab Eleasar, fab Aaron oedd yn gofalu amdani ar y pryd. Pan ofynnodd yr Israeliaid i'r ARGLWYDD, “A awn ni allan i ymladd eto â'n perthnasau y Benjaminiaid, ai peidio?” atebodd yr ARGLWYDD, “Ewch, oherwydd yfory fe'u rhoddaf hwy yn eich llaw.”

29. Gosododd Israel filwyr cudd o amgylch Gibea,

30. cyn mynd i fyny'r trydydd dydd yn erbyn y Benjaminiaid ac ymgynnull yn eu rhengoedd o flaen Gibea fel cynt.

31. Gwnaeth y Benjaminiaid gyrch yn erbyn y fyddin, a denwyd hwy oddi wrth y dref; dechreusant wneud lladdfa ymysg y fyddin fel cynt, ac archolli tua deg ar hugain o'r Israeliaid yn y tir agored ger y priffyrdd i Fethel ac i Gibea.

Barnwyr 20