Barnwyr 2:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Aeth angel yr ARGLWYDD i fyny o Gilgal i Bochim, a dywedodd, “Dygais chwi allan o'r Aifft, a dod â chwi i'r wlad a addewais i'ch hynafiaid. Dywedais hefyd, ‘Ni thorraf fy nghyfamod â chwi byth;

2. peidiwch chwithau â gwneud cyfamod â thrigolion y wlad hon, ond bwriwch i lawr eu hallorau.’ Eto nid ydych wedi gwrando arnaf. Pam y gwnaethoch hyn?

3. Yr wyf wedi penderfynu na yrraf hwy allan o'ch blaen, ond byddant yn ddrain yn eich ystlysau, a'u duwiau yn fagl ichwi.”

4. Pan lefarodd angel yr ARGLWYDD y geiriau hyn wrth yr holl Israeliaid, torrodd y bobl allan i wylo'n uchel.

Barnwyr 2