Barnwyr 18:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Dywedodd yr offeiriad wrthynt, “Ewch mewn heddwch; y mae'ch taith dan ofal yr ARGLWYDD.”

7. Aeth y pump i ffwrdd, a chyrraedd Lais. Yno gwelsant fod y bobl yn byw'n ddiogel, yr un fath â'r Sidoniaid, yn dawel a dibryder, heb fod yn brin o ddim ar y ddaear, ond yn berchnogion ar gyfoeth. Yr oeddent yn bell oddi wrth y Sidoniaid, heb gysylltiad rhyngddynt a neb.

8. Wedi iddynt ddychwelyd at eu pobl i Sora ac Estaol, gofynnodd eu pobl, “Beth yw'ch barn?”

9. Ac meddent hwy, “Dewch, awn i fyny yn eu herbyn, oherwydd gwelsom fod y wlad yn ffrwythlon iawn. Pam yr ydych yn sefyllian? Peidiwch ag oedi mynd yno i gymryd meddiant o'r wlad.

Barnwyr 18