19. Dywedasant hwythau wrtho, “Taw di, a phaid â dweud dim. Tyrd gyda ni, a bydd yn dad ac yn offeiriad i ni. Prun sydd orau, ai bod yn offeiriad i un teulu, ynteu'n offeiriad i lwyth a thylwyth yn Israel?”
20. Bodlonodd yr offeiriad a chymerodd yr effod, y teraffim a'r gerfddelw, ac ymuno â'r fintai.
21. Wedi iddynt ailgychwyn, gosodasant y rhai bychain a'r preiddiau a'r meddiannau ar y blaen.
22. Yr oeddent wedi mynd gryn bellter o dŷ Mica cyn i'r dynion yn y tai gerllaw ei gartref gael eu galw ynghyd i ymlid y Daniaid.
23. Wedi iddynt oddiweddyd y Daniaid, troesant hwythau i'w hwynebu, ac meddent wrth Mica, “Beth sy'n bod, i beri iti ddod â'r fath fintai?”
24. Atebodd Mica, “Yr ydych wedi cymryd y duwiau a wneuthum, ac wedi mynd â'm hoffeiriad; a beth arall sydd gennyf? Sut felly y gallwch ofyn imi, ‘Beth sy'n bod arnat?’ ”
25. Ac meddai'r Daniaid wrtho, “Paid â chodi dy lais arnom, rhag i ddynion gwyllt eu tymer ruthro arnoch, ac i ti a'th deulu golli'ch bywyd.”