Barnwyr 16:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Suodd hi Samson i gysgu ar ei gliniau, ac yna galwodd am ddyn i eillio saith cudyn ei ben. Dechreuodd ei gystwyo, ac yr oedd ei nerth wedi cilio rhagddo.

20. Dywedodd, “Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!” Deffrôdd ef o'i gwsg gan feddwl, “Af allan fel o'r blaen ac ymryddhau.” Ni wyddai fod yr ARGLWYDD wedi cefnu arno.

21. Daliodd y Philistiaid ef, a thynnu ei lygaid, a mynd ag ef i lawr i Gasa a'i rwymo mewn gefynnau; a bu'n malu blawd yn y carchardy.

22. Ond dechreuodd ei wallt dyfu eto ar ôl ei eillio.

Barnwyr 16