Barnwyr 11:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Yna fe anfonodd Israel negeswyr at frenin Edom a dweud, “Gad imi fynd trwy dy dir di”; ond ni wrandawai brenin Edom. Wedyn anfonwyd at frenin Moab, ac nid oedd ef yn fodlon; felly arhosodd Israel yn Cades.

18. Yna aethant drwy'r anialwch i fynd heibio i dir Edom a thir Moab o'r tu dwyrain i wlad Moab, a gwersyllu y tu hwnt i nant Arnon, heb groesi terfyn Moab, oherwydd nant Arnon yw terfyn Moab.

19. Anfonodd Israel negeswyr hefyd at frenin yr Amoriaid, Sihon brenin Hesbon, a dweud wrtho, “Gad imi groesi dy dir i'm lle fy hun.”

20. Eto nid ymddiriedai Sihon yn Israel, iddi groesi ei ffin, ond casglodd ei holl fyddin a gwersyllu yn Jahas ac ymladd yn erbyn Israel.

Barnwyr 11