Barnwyr 1:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Yr oedd yr ARGLWYDD gyda Jwda, a meddiannodd y mynydd-dir, ond ni allodd ddisodli trigolion y gwastadedd am fod ganddynt gerbydau haearn.

20. Rhoesant Hebron i Caleb fel yr oedd Moses wedi addo, a gyrrodd ef oddi yno dri o'r Anaciaid.

21. Ond am y Jebusiaid oedd yn byw yn Jerwsalem, ni yrrodd y Benjaminiaid hwy allan; ac y mae'r Jebusiaid wedi byw gyda'r Benjaminiaid yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.

22. Aeth tylwyth Joseff i fyny yn erbyn Bethel, a bu'r ARGLWYDD gyda hwy.

Barnwyr 1