Amos 8:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. “Wele'r dyddiau yn dod,” medd yr Arglwydd DDUW,“pan anfonaf newyn i'r wlad;nid newyn am fara, na syched am ddŵr,ond am glywed geiriau'r ARGLWYDD.

12. Crwydrant o fôr i fôrac o'r gogledd i'r dwyrain;ânt yn ôl ac ymlaen i geisio gair yr ARGLWYDD,ond heb ei gael.

13. “Yn y dydd hwnnw, bydd gwyryfon teg a gwŷr ifaincyn llewygu o syched.

14. Y rhai sy'n tyngu i Asima Samaria,ac yn dweud, ‘Cyn wired â bod dy dduw yn fyw, Dan’,neu, ‘Cyn wired â bod dy dduw yn fyw, Beerseba’—fe syrthiant oll heb godi byth mwy.”

Amos 8