Amos 5:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Clywch y gair hwn a lefaraf yn eich erbyn; galarnad yw, dŷ Israel:

2. “Y mae'r wyryf Israel wedi syrthio,ac ni chyfyd eto;gadawyd hi ar lawr,heb neb i'w chodi.”

3. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD Dduw wrth dŷ Israel:“Y ddinas a anfonodd fila gaiff gant yn ôl;a'r un a anfonodd ganta gaiff ddeg yn ôl.”

4. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth dŷ Israel:“Ceisiwch fi, a byddwch fyw;

Amos 5