Amos 1:3-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Am dri o droseddau Damascus,ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;am iddynt ddyrnu Gileadâ llusg-ddyrnwyr haearn,

4. anfonaf dân ar dŷ Hasael,ac fe ddifa geyrydd Ben-hadad.

5. Drylliaf farrau pyrth Damascus,a thorraf ymaith y trigolion o ddyffryn Afen,a pherchen y deyrnwialen o Beth-eden;a chaethgludir pobl Syria i Cir,” medd yr ARGLWYDD.

Amos 1