Actau 7:8-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. A rhoddodd iddo gyfamod enwaediad. Felly, wedi geni iddo Isaac, enwaedodd arno yr wythfed dydd. Ac i Isaac ganwyd Jacob, ac i Jacob y deuddeg patriarch.”

9. “Cenfigennodd y patriarchiaid wrth Joseff a'i werthu i'r Aifft. Ond yr oedd Duw gydag ef,

10. ac achubodd ef o'i holl gyfyngderau, a rhoddodd iddo ffafr a doethineb yng ngolwg Pharo brenin yr Aifft, a gosododd yntau ef yn llywodraethwr dros yr Aifft a thros ei holl dŷ.

11. Daeth newyn ar yr Aifft i gyd ac ar Ganaan; yr oedd yn gyfyngder mawr, ac ni allai ein hynafiaid gael lluniaeth.

12. Ond clywodd Jacob fod bwyd yn yr Aifft, ac anfonodd ein tadau yno y tro cyntaf.

13. Yr ail dro fe adnabuwyd Joseff gan ei frodyr, a daeth tylwyth Joseff yn hysbys i Pharo.

14. Anfonodd Joseff, a galw Jacob ei dad ato, a'i holl berthnasau, yn saith deg pump o bobl i gyd.

Actau 7