Actau 4:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Rhoesant y carcharorion i sefyll gerbron, a dechrau eu holi, “Trwy ba nerth neu drwy ba enw y gwnaethoch chwi hyn?”

8. Yna, wedi ei lenwi â'r Ysbryd Glân, dywedodd Pedr wrthynt: “Lywodraethwyr y bobl, a henuriaid,

9. os ydym ni heddiw yn cael ein croesholi am gymwynas i ddyn claf, a sut y mae wedi cael ei iacháu,

10. bydded hysbys i chwi i gyd ac i holl bobl Israel mai trwy enw Iesu Grist o Nasareth, a groeshoeliasoch chwi ac a gyfododd Duw oddi wrth y meirw, trwy ei enw ef y mae hwn yn sefyll ger eich bron yn iach.

Actau 4