Actau 3:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. A gafaelodd ynddo gerfydd ei law dde, a chododd ef. Ac ar unwaith cryfhaodd ei draed a'i fferau;

8. neidiodd i fyny, safodd, a dechreuodd gerdded, ac aeth i mewn gyda hwy i'r deml dan gerdded a neidio a moli Duw.

9. Gwelodd yr holl bobl ef yn cerdded ac yn moli Duw.

10. Yr oeddent yn sylweddoli mai hwn oedd y dyn a fyddai'n eistedd i gardota wrth Borth Prydferth y deml, a llanwyd hwy â braw a syndod am yr hyn oedd wedi digwydd iddo.

Actau 3