20. A chan fy mod mewn penbleth ynglŷn â'r ddadl ar y pethau hyn, gofynnais iddo a oedd yn dymuno mynd i Jerwsalem, a chael ei farnu amdanynt yno.
21. Ond gan i Paul apelio am gael ei gadw dan warchodaeth, i gael dyfarniad gan yr Ymerawdwr, gorchmynnais ei gadw felly nes imi ei anfon at Gesar.”
22. Meddai Agripa wrth Ffestus, “Mi hoffwn innau glywed y dyn.” Meddai yntau, “Fe gei ei glywed yfory.”
23. Trannoeth, felly, daeth Agripa a Bernice, yn fawr eu rhwysg, a mynd i mewn i'r llys ynghyd â chapteiniaid a gwŷr amlwg y ddinas; ac ar orchymyn Ffestus, daethpwyd â Paul gerbron.
24. Ac meddai Ffestus, “Y Brenin Agripa, a chwi oll sydd yma gyda ni, yr ydych yn gweld y dyn hwn, y gwnaeth holl liaws yr Iddewon gais gennyf yn ei gylch, yn Jerwsalem ac yma, gan weiddi na ddylai gael byw ddim mwy.
25. Ond gwelais i nad oedd wedi gwneud dim yn haeddu marwolaeth; a chan i'r dyn ei hun apelio at yr Ymerawdwr, penderfynais ei anfon ato.