Actau 21:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wedi i ni ymadael â hwy a chodi angor, daethom ar union hynt i Cos, a thrannoeth i Rhodos, ac oddi yno i Patara.

2. Cawsom long yn croesi i Phoenicia, ac aethom arni a hwylio ymaith.

3. Wedi dod i olwg Cyprus, a'i gadael ar y chwith, hwyliasom ymlaen i Syria, a glanio yn Tyrus, oherwydd yno yr oedd y llong yn dadlwytho.

Actau 21