Actau 2:23-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Yr oedd hwn wedi ei draddodi trwy fwriad penodedig a rhagwybodaeth Duw, ac fe groeshoeliasoch chwi ef drwy law estroniaid, a'i ladd.

24. Ond cyfododd Duw ef, gan ei ryddhau o wewyr angau, oherwydd nid oedd dichon i angau ei ddal yn ei afael.

25. Oherwydd y mae Dafydd yn dweud amdano:“ ‘Yr oeddwn yn gweld yr Arglwydd o'm blaen yn wastad,canys ar fy neheulaw y mae, fel na'm hysgydwer.

26. Am hynny llawenychodd fy nghalon a gorfoleddodd fy nhafod,ie, a bydd fy nghnawd hefyd yn preswylio mewn gobaith;

27. oherwydd ni fyddi'n gadael fy enaid yn Hades,nac yn gadael i'th Sanct weld llygredigaeth.

28. Hysbysaist imi ffyrdd bywyd;byddi'n fy llenwi â llawenydd yn dy bresenoldeb.’

Actau 2