Actau 18:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Yna gafaelodd pawb yn Sosthenes, arweinydd y synagog, a'i guro yng ngŵydd y llys. Ond nid oedd Galio yn poeni dim am hynny.

18. Arhosodd Paul yno eto gryn ddyddiau, ac wedi ffarwelio â'r credinwyr fe hwyliodd ymaith i Syria, a Priscila ac Acwila gydag ef. Eilliodd ei ben yn Cenchreae, am fod adduned arno.

19. Pan gyraeddasant Effesus, gadawodd hwy yno, a mynd ei hun i mewn i'r synagog ac ymresymu â'r Iddewon.

20. A phan ofynasant iddo aros am amser hwy, ni chydsyniodd.

21. Ond wedi ffarwelio gan ddweud, “Dychwelaf atoch eto, os Duw a'i myn”, hwyliodd o Effesus.

Actau 18