Actau 18:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. ond gan mai dadleuon yw'r rhain ynghylch geiriau ac enwau a'ch Cyfraith arbennig chwi, cymerwch y cyfrifoldeb eich hunain. Nid oes arnaf fi eisiau bod yn farnwr ar y pethau hyn.”

16. A gyrrodd hwy allan o'r llys.

17. Yna gafaelodd pawb yn Sosthenes, arweinydd y synagog, a'i guro yng ngŵydd y llys. Ond nid oedd Galio yn poeni dim am hynny.

18. Arhosodd Paul yno eto gryn ddyddiau, ac wedi ffarwelio â'r credinwyr fe hwyliodd ymaith i Syria, a Priscila ac Acwila gydag ef. Eilliodd ei ben yn Cenchreae, am fod adduned arno.

Actau 18