Actau 16:31-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Dywedasant hwythau, “Cred yn yr Arglwydd Iesu, ac fe gei dy achub, ti a'th deulu.”

32. A thraethasant air yr Arglwydd wrtho ef ac wrth bawb oedd yn ei dŷ.

33. Er ei bod yn hwyr y nos, aeth ef â hwy a golchi eu briwiau; ac yn union wedyn fe'i bedyddiwyd ef a phawb o'i deulu.

34. Yna, wedi dod â hwy i'w dŷ, gosododd bryd o fwyd o'u blaen, a gorfoleddodd gyda'i holl deulu am ei fod wedi credu yn Nuw.

Actau 16