Actau 15:32-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. Gan fod Jwdas a Silas hwythau'n broffwydi, dywedasant lawer i annog y credinwyr a'u cadarnhau.

33. Wedi iddynt dreulio peth amser yno fe'u gollyngwyd mewn tangnefedd gan y credinwyr, i ddychwelyd at y rhai a'u hanfonodd.

35. Arhosodd Paul a Barnabas yn Antiochia, gan ddysgu a phregethu gair yr Arglwydd, ynghyd â llawer eraill.

36. Wedi rhai dyddiau, dywedodd Paul wrth Barnabas, “Gadewch inni ddychwelyd yn awr, ac ymweld â'r credinwyr ym mhob un o'r dinasoedd y buom yn cyhoeddi gair yr Arglwydd ynddynt, i weld sut y mae hi arnynt.”

Actau 15