Actau 14:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Pan wnaed cynnig gan y Cenhedloedd a'r Iddewon, ynghyd â'u harweinwyr, i'w cam-drin a'u llabyddio,

6. wedi cael achlust o'r peth, ffoesant i Lystra a Derbe, dinasoedd Lycaonia, ac i'r wlad o amgylch,

7. ac yno yr oeddent yn cyhoeddi'r newydd da.

8. Ac yn Lystra yr oedd yn eistedd ryw ddyn â'i draed yn ddiffrwyth, un cloff o'i enedigaeth, nad oedd erioed wedi cerdded.

9. Yr oedd hwn yn gwrando ar Paul yn llefaru. Syllodd yntau arno, a gwelodd fod ganddo ffydd i gael ei iacháu,

Actau 14