Actau 13:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Yna, wedi ymprydio a gweddïo a rhoi eu dwylo arnynt, gollyngasant hwy.

4. Felly, wedi eu hanfon allan gan yr Ysbryd Glân, daeth y rhain i lawr i Selewcia, a hwylio oddi yno i Cyprus.

5. Wedi cyrraedd Salamis, cyhoeddasant air Duw yn synagogau'r Iddewon. Yr oedd ganddynt Ioan hefyd yn gynorthwywr.

6. Aethant drwy'r holl ynys hyd Paffos, a chael yno ryw ddewin, gau broffwyd o Iddew, o'r enw Bar-Iesu;

7. yr oedd hwn gyda'r rhaglaw, Sergius Pawlus, gŵr deallus. Galwodd hwnnw Barnabas a Saul ato, a cheisio cael clywed gair Duw.

Actau 13