Actau 12:15-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Dywedasant wrthi, “Rwyt ti'n wallgof.” Ond taerodd hithau mai felly yr oedd. Meddent hwythau, “Ei angel ydyw.”

16. Yr oedd Pedr yn dal i guro, ac wedi iddynt agor a'i weld, fe'u syfrdanwyd.

17. Amneidiodd yntau arnynt â'i law i fod yn ddistaw, ac adroddodd wrthynt sut yr oedd yr Arglwydd wedi dod ag ef allan o'r carchar. Dywedodd hefyd, “Mynegwch hyn i Iago a'r brodyr.” Yna ymadawodd, ac aeth ymaith i le arall.

18. Wedi iddi ddyddio, yr oedd cynnwrf nid bychan ymhlith y milwyr: beth allai fod wedi digwydd i Pedr?

19. Wedi i Herod chwilio amdano a methu ei gael, holodd y gwylwyr a gorchmynnodd eu dienyddio. Yna aeth i lawr o Jwdea i Gesarea, ac aros yno.

20. Yr oedd Herod yn gynddeiriog yn erbyn pobl Tyrus a Sidon. Ond daethant hwy yn unfryd ato, ac wedi ennill Blastus, siambrlen y brenin, o'u plaid, deisyfasant heddwch, am fod eu gwlad hwy yn cael ei chynhaliaeth o wlad y brenin.

21. Ar ddiwrnod penodedig, â'i wisg frenhinol amdano, eisteddodd Herod ar ei orsedd a dechrau eu hannerch;

22. a bloeddiodd y bobl, “Llais Duw ydyw, nid llais dyn!”

Actau 12