2 Thesaloniaid 2:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Ac yn awr, gwyddoch am yr hyn sydd yn ei ddal yn ôl er mwyn sicrhau mai yn ei briod amser y datguddir ef.

7. Oherwydd y mae grym dirgelwch anghyfraith eisoes ar waith, eithr dim ond nes y bydd yr hwn sydd yn awr yn ei ddal yn ôl wedi ei symud o'r ffordd.

8. Ac yna fe ddatguddir yr un digyfraith, a bydd yr Arglwydd Iesu yn ei ladd ag anadl ei enau, ac yn ei ddiddymu trwy ysblander ei ddyfodiad.

9. Bydd dyfodiad yr un digyfraith yn digwydd trwy weithrediad Satan; fe'i nodweddir gan bob math o nerth ac arwyddion a rhyfeddodau gau,

10. a chan bob twyll anghyfiawn, i ddrygu'r rhai sydd ar lwybr colledigaeth am iddynt beidio â derbyn cariad at y gwirionedd a chael eu hachub.

2 Thesaloniaid 2