2 Samuel 5:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Pan aeth Dafydd a'i ddynion i Jerwsalem yn erbyn y Jebusiaid oedd yn byw yn y wlad, dywedasant wrth Ddafydd, “Ni ddoi i mewn yma; bydd deillion a chloffion yn dy droi di'n ôl”—gan dybio nad âi Dafydd i mewn yno.

7. Eto fe enillodd Dafydd gaer Seion, sef Dinas Dafydd.

8. Y diwrnod hwnnw fe ddywedodd Dafydd, “Pob un sydd am daro'r Jebusiaid, aed i fyny trwy'r siafft ddŵr at y cloffion a'r deillion sy'n gas gan enaid Dafydd.” Dyna pam y dywedir, “Ni chaiff y dall na'r cloff ddod i'r deml.”

9. Pan ymsefydlodd Dafydd yn y gaer, galwodd hi yn Ddinas Dafydd, ac adeiladodd fur o'i chwmpas, o'r Milo at y deml.

2 Samuel 5