2 Samuel 3:29-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. bydded ei waed ar Joab a'i holl deulu! Na fydded teulu Joab heb aelod diferllyd, neu wahanglwyfus, neu ar ei faglau, neu glwyfedig gan gleddyf, neu brin o fwyd!”

30. Yr oedd Joab a'i frawd Abisai wedi llofruddio Abner oherwydd iddo ef ladd eu brawd Asahel yn y frwydr yn Gibeon.

31. Dywedodd Dafydd wrth Joab a'r holl bobl oedd gydag ef, “Rhwygwch eich dillad a gwisgwch sachliain a gwnewch alar o flaen Abner.” Cerddodd y Brenin Dafydd ar ôl yr elor,

32. a chladdwyd Abner yn Hebron. Wylodd y brenin yn uchel uwchben bedd Abner ac yr oedd yr holl bobl yn wylo hefyd.

33. Yna canodd y brenin yr alarnad hon am Abner:

2 Samuel 3