2 Samuel 24:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Dywedodd Dafydd wrth Gad, “Y mae'n gyfyng iawn arnaf, ond bydded inni syrthio i law'r ARGLWYDD, am fod ei drugareddau'n aml, yn hytrach nag imi syrthio i ddwylo pobl.”

15. Felly dewisodd Dafydd yr haint. Yr oedd yn dymor y cynhaeaf gwenith, ac anfonodd yr ARGLWYDD haint ar Israel o'r bore hyd derfyn y cyfnod penodedig. Bu farw deng mil a thrigain o'r bobl o Dan i Beerseba.

16. Ond pan estynnodd yr angel ei law yn erbyn Jerwsalem i'w dinistrio, edifarhaodd yr ARGLWYDD am y niwed, a dywedodd wrth yr angel oedd yn distrywio'r bobl, “Digon bellach! Atal dy law.” Yr oedd angel yr ARGLWYDD yn ymyl llawr dyrnu Arafna y Jebusiad.

2 Samuel 24