2 Samuel 18:9-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Digwyddodd dilynwyr Dafydd daro ar Absalom. Fel yr oedd Absalom yn marchogaeth ar ei ful, aeth hwnnw dan gangen derwen fawr; daliwyd pen Absalom yn y dderwen, a'i adael rhwng nef a daear wrth i'r mul oedd dano fynd yn ei flaen.

10. Gwelodd rhywun ef, a dweud wrth Joab ei fod wedi gweld Absalom ynghrog mewn derwen.

11. Ac meddai Joab wrth y dyn oedd wedi dweud wrtho, “Os gwelaist ti ef, pam na fu iti ei daro i lawr yn y fan? Fe fyddwn wedi gofalu am roi iti ddeg darn arian a gwregys.”

12. Ond dywedodd y dyn wrth Joab, “Petawn i'n cael mil o ddarnau arian ar gledr fy llaw, ni feiddiwn estyn llaw yn erbyn mab y brenin; oherwydd fe glywsom â'n clustiau ein hunain pan roddodd y brenin orchymyn i ti ac i Abisai ac i Itai, a dweud, ‘Cymerwch ofal, bawb, o'r llanc Absalom.’

13. Pe bawn i wedi troseddu yn erbyn ei einioes, ni fyddai modd cuddio dim rhag y brenin; a byddit tithau wedi sefyll o'r naill ochr.”

14. Atebodd Joab, “Nid wyf am wastraffu amser fel hyn gyda thi.” Cymerodd dair picell yn ei law a thrywanu Absalom yn ei galon, ac yntau'n dal yn fyw yng nghanol y dderwen.

15. Yna tyrrodd deg llanc oedd yn gofalu am arfau Joab o gwmpas Absalom, a'i daro a'i ladd.

16. Ar hyn canodd Joab yr utgorn, a dychwelodd y fyddin o erlid yr Israeliaid am i Joab eu galw'n ôl.

17. Cymerwyd Absalom a'i fwrw i geubwll mawr oedd yn y goedwig, a chodi tomen enfawr o gerrig drosto. Ffodd yr Israeliaid i gyd adref.

18. Yn ystod ei fywyd yr oedd Absalom wedi cymryd colofn a'i gosod i sefyll yn Nyffryn y Brenin, “Oherwydd,” meddai, “nid oes gennyf fab i gadw f'enw mewn cof.” Galwodd y golofn ar ei enw ei hun, ac fe'i gelwir hi'n Gofeb Absalom hyd heddiw.

19. Dywedodd Ahimaas fab Sadoc, “Gad i mi redeg a rhoi'r newydd i'r brenin fod yr ARGLWYDD wedi achub ei gam oddi ar law ei elynion.”

20. Ond dywedodd Joab wrtho, “Nid ti fydd y negesydd heddiw; cei fynd â'r neges rywdro arall, ond nid heddiw, oherwydd bod mab y brenin wedi marw.”

21. Yna meddai Joab wrth ryw Ethiopiad, “Dos, dywed wrth y brenin yr hyn a welaist.” Moesymgrymodd yr Ethiopiad i Joab a rhedodd ymaith.

22. Ond gwnaeth Ahimaas fab Sadoc gais arall, ac meddai wrth Joab, “Beth bynnag a ddigwydd, yr wyf finnau hefyd am gael rhedeg ar ôl yr Ethiopiad.” Gofynnodd Joab, “Pam y mae arnat ti eisiau mynd, fy machgen? Ni chei wobr am ddwyn y neges.”

23. Ond plediodd, “Sut bynnag y bydd, gad imi fynd.” Felly dywedodd wrtho, “Dos, ynteu.” Rhedodd Ahimaas ar hyd y gwastadedd, ac ennill y blaen ar yr Ethiopiad.

24. Yr oedd Dafydd yn eistedd rhwng y ddeuborth. Pan aeth gwyliwr i fyny uwchben y porth i ben y mur, a chodi ei lygaid ac edrych, dyna lle'r oedd dyn yn rhedeg ar ei ben ei hun.

25. Galwodd y gwyliwr a hysbysu'r brenin. Atebodd y brenin, “Os yw ar ei ben ei hun, y mae'n dod â neges.”

2 Samuel 18