2 Samuel 17:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. a dof â'r holl bobl yn ôl atat fel priodferch yn dod adref at ei phriod. Bywyd un yn unig sydd arnat ei eisiau; caiff gweddill y bobl lonydd.”

4. Yr oedd Absalom a holl henuriaid Israel yn gweld hwn yn gyngor da,

5. ond dywedodd Absalom, “Galwch Husai yr Arciad hefyd er mwyn inni glywed beth sydd ganddo yntau i'w ddweud.”

6. Wedi i Husai gyrraedd, dywedodd Absalom wrtho, “Dyma sut y cynghorodd Ahitoffel. A ddylem dderbyn ei gyngor? Onid e, rho di dy gyngor.”

2 Samuel 17