15. Dywedodd Husai wrth yr offeiriaid Sadoc ac Abiathar, “Fel hyn ac fel hyn yr oedd cyngor Ahitoffel i Absalom a henuriaid Israel; ac fel hyn ac fel hyn y cynghorais innau.
16. Anfonwch yn awr ar frys a dywedwch wrth Ddafydd, ‘Paid ag aros y nos wrth rydau'r anialwch, ond dos drosodd ar unwaith, rhag i'r brenin a'r holl bobl sydd gydag ef gael eu difa.’ ”
17. Yr oedd Jonathan ac Ahimaas yn aros yn En-rogel, a morwyn yn mynd â'r neges iddynt hwy, a hwythau wedyn yn mynd â'r neges i'r Brenin Dafydd; oherwydd ni feiddient gael eu gweld yn mynd i'r ddinas.
18. Ond fe welodd bachgen hwy, a dweud wrth Absalom; felly aeth y ddau ar frys nes dod i dŷ rhyw ddyn yn Bahurim. Yr oedd gan hwnnw bydew yn ei fuarth ac aethant i lawr iddo.
19. Yna cymerodd ei wraig y caead a'i osod ar geg y pydew a thaenu grawn drosto, fel nad oedd neb yn gwybod.
20. Pan ddaeth gweision Absalom at y tŷ a gofyn i'r wraig, “Ple mae Ahimaas a Jonathan?” dywedodd hithau, “Y maent wedi mynd dros y ffrwd ddŵr.” Ond er iddynt chwilio, ni chawsant mohonynt, ac aethant yn ôl i Jerwsalem.