2 Samuel 14:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Meddyliodd dy lawforwyn hefyd y byddai gair f'arglwydd frenin yn gysur, oherwydd y mae f'arglwydd frenin fel angel Duw, yn medru dirnad rhwng da a drwg. Bydded yr ARGLWYDD dy Dduw gyda thi.”

18. Dywedodd y brenin wrth y wraig, “Paid â chelu oddi wrthyf un peth yr wyf am ei ofyn iti.” Atebodd hithau, “Gofyn di, f'arglwydd frenin.”

19. Yna gofynnodd y brenin, “A yw llaw Joab gyda thi yn hyn i gyd?” Atebodd y wraig, “Cyn wired â bod f'arglwydd frenin yn fyw, nid oes modd osgoi yr hyn a ddywedodd f'arglwydd frenin, ie, dy was Joab a roddodd orchymyn imi, ac ef a osododd y geiriau hyn i gyd yng ngenau dy lawforwyn.

2 Samuel 14