2 Samuel 12:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Yna dywedodd Dafydd wrth Nathan, “Yr wyf wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD.” Ac meddai Nathan wrth Ddafydd, “Y mae'r ARGLWYDD yntau wedi troi dy bechod heibio; ni fyddi farw.

14. Ond oherwydd iti lwyr ddiystyru'r ARGLWYDD yn y mater hwn, yn ddios bydd farw y bachgen a enir iti.”

15. Wedi i Nathan fynd adref, trawodd yr ARGLWYDD y plentyn a ymddûg gwraig Ureia i Ddafydd, a chlafychodd.

16. Ymbiliodd Dafydd â Duw dros y bachgen; ymprydiodd, a mynd a threulio'r nos yn gorwedd ar lawr.

17. Pan geisiodd henuriaid ei dŷ ei godi oddi ar lawr, ni fynnai godi ac ni fwytâi fara gyda hwy.

2 Samuel 12