2 Samuel 1:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. “O ferched Israel, wylwch am Saul,a fyddai'n eich gwisgo'n foethus mewn ysgarlad,ac yn rhoi gemau aur ar eich gwisg.

25. “O fel y cwympodd y cedyrn yng nghanol y frwydr!lladdwyd Jonathan ar dy uchelfannau.

26. “Gofidus wyf amdanat, fy mrawd Jonathan;buost yn annwyl iawn gennyf;yr oedd dy gariad tuag ataf yn rhyfeddol,y tu hwnt i gariad gwragedd.

27. “O fel y cwympodd y cedyrn,ac y difethwyd arfau rhyfel!”

2 Samuel 1