2 Samuel 1:23-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. “Saul a Jonathan, yr anwylaf a'r hyfrytaf o wŷr,yn eu bywyd ac yn eu hangau ni wahanwyd hwy;cyflymach nag eryrod oeddent, a chryfach na llewod.

24. “O ferched Israel, wylwch am Saul,a fyddai'n eich gwisgo'n foethus mewn ysgarlad,ac yn rhoi gemau aur ar eich gwisg.

25. “O fel y cwympodd y cedyrn yng nghanol y frwydr!lladdwyd Jonathan ar dy uchelfannau.

26. “Gofidus wyf amdanat, fy mrawd Jonathan;buost yn annwyl iawn gennyf;yr oedd dy gariad tuag ataf yn rhyfeddol,y tu hwnt i gariad gwragedd.

27. “O fel y cwympodd y cedyrn,ac y difethwyd arfau rhyfel!”

2 Samuel 1