2 Samuel 1:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Yr oedd Dafydd wedi dweud wrtho, “Bydded dy waed ar dy ben di dy hun; tystiodd dy enau dy hun yn dy erbyn pan ddywedaist, ‘Myfi a laddodd eneiniog yr ARGLWYDD’.”

17. Canodd Dafydd yr alarnad hon am Saul a'i fab Jonathan,

18. a gorchymyn ei dysgu i'r Jwdeaid. Y mae wedi ei hysgrifennu yn Llyfr Jasar:

19. “O ardderchowgrwydd Israel, a drywanwyd ar dy uchelfannau!O fel y cwympodd y cedyrn!

20. “Peidiwch â'i adrodd yn Gath,na'i gyhoeddi ar strydoedd Ascalon,rhag i ferched y Philistiaid lawenhau,rhag i ferched y dienwaededig orfoleddu.

21. “O fynyddoedd Gilboa,na foed gwlith na glaw arnoch,chwi feysydd marwolaeth.Canys yno yr halogwyd tarian y cedyrn,tarian Saul heb ei hiro ag olew.

2 Samuel 1