2 Macabeaid 6:29-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Gyda'r geiriau hyn aeth ar ei union tuag at yr ystanc. Yr oedd yr ewyllys da a deimlai ei warcheidwaid tuag ato ychydig ynghynt wedi troi'n ewyllys drwg, am fod y geiriau yr oedd newydd eu llefaru yn wallgofrwydd yn eu golwg hwy.

30. A phan oedd ar drengi dan yr ergydion, meddai dan riddfan yn uchel, “Y mae'r Arglwydd yn ei wybodaeth sanctaidd yn gweld fy mod, er y gallwn ddianc rhag angau, yn dioddef yn fy nghorff boenau creulon y fflangell, ond yn fy enaid yn goddef hynny'n llawen o barchedig ofn tuag ato ef.”

31. A dyna'r modd yr ymadawodd ef â'r fuchedd hon, gan adael yn ei farwolaeth esiampl o anrhydedd a symbyliad i rinwedd, nid yn unig i'r ifainc ond i'r mwyafrif o'i gyd-genedl.

2 Macabeaid 6