7. Ond methodd ddod yn ben; a diwedd ei gynllwyn fu gwarth, a ffoi'n alltud unwaith eto i dir yr Amoniaid.
8. Yn wir, ymhen amser, daeth tro trychinebus ar ei fyd. Wedi ei gyhuddo gan Aretas, unben yr Arabiaid, bu'n ffoi o ddinas i ddinas, yn cael ei erlid gan bawb, yn atgas ganddynt fel gwrthgiliwr oddi wrth y cyfreithiau, ac yn ffiaidd ganddynt fel dienyddiwr ei wlad a'i gyd-ddinasyddion, nes o'r diwedd iddo lanio yn yr Aifft.
9. Y gŵr oedd wedi gyrru llaweroedd o'u gwlad yn alltudion, yn alltud y darfu amdano yntau yng ngwlad y Lacedaemoniaid; oherwydd yr oedd wedi hwylio yno yn y gobaith y câi loches ganddynt ar gyfrif eu tras gyffredin.
10. Ac yntau wedi lluchio llaweroedd allan i orwedd heb fedd, ni chafodd na galarwr nac angladd o unrhyw fath, na gorweddfan ym meddrod ei hynafiaid.
11. Pan ddaeth y newydd am y digwyddiadau hyn i glust y brenin, tybiodd ef fod Jwdea'n gwrthryfela. Gan hynny, ymadawodd â'i wersyll yn yr Aifft yn gynddeiriog ei lid.