2 Macabeaid 2:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. ac â geiriau eraill cyffelyb fe'u hanogodd i beidio â throi'r gyfraith allan o'u calonnau.

4. Yr oedd y ddogfen hefyd yn adrodd bod y proffwyd o achos oracl dwyfol wedi gorchymyn fod y babell a'r arch i'w ddilyn ef; a'i fod wedi mynd allan i'r mynydd y safai Moses ar ei ben pan welodd yr etifeddiaeth a addawyd gan Dduw.

5. Wedi cyrraedd yno darganfu Jeremeia ogof gyfannedd, a dygodd y babell a'r arch ac allor yr arogldarth i mewn iddi a chau'r fynedfa.

6. Daeth rhai o'i gymdeithion yno ar ei ôl i nodi'r ffordd, ond ni lwyddasant i'w darganfod.

2 Macabeaid 2